Marchnad Abertawe’n dathlu 50 mlynedd - Cenedlaethau’n gwasanaethu cenedlaethau
Dioddefodd Abertawe’n ddifrifol yn ystod cyrchoedd bomio’r Ail Ryfel Byd. Lladdwyd cyfanswm o 387 person yn Abertawe a dinistriwyd calon y ddinas. Cafodd ei hailadeiladu yn y 1960au, gan gynnwys neuadd y farchnad a welir heddiw, a agorwyd yn swyddogol ar 18 Mai 1961 gan Alderman Francis Charles Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Ystadau.
Mae llawer o’r masnachwyr a welir heddiw yn y farchnad wedi bod yno ers y dechrau. Mae Tuckers Fresh Fish, er enghraifft, wedi bod yn rhan amlwg o fywyd y farchnad gyda thrydedd genhedlaeth y teulu’n rhedeg y siop bysgod boblogaidd heddiw.
I ddathlu 50 mlynedd, cynhelir llu o weithgareddau a cheir cynigion arbennig a fydd ar gael drwy gydol 2011 i hyrwyddo treftadaeth hir sefydledig y farchnad wrth edrych tua’r dyfodol. Dyma rai o’r uchafbwyntiau sy’n cynnwys lansio Facebook ar gyfer y farchnad, yn fuan!
Darn golygyddol a chystadleuaeth luniau ‘Rydym yn dwlu ar y farchnad’
Bydd South Wales Evening Post yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i gyflwyno’u hen luniau o’r farchnad i’w beirniadu gan banel o arbenigwyr. Fe’u noddir gan Ffederasiwn Masnachwyr y Farchnad. Cyflwynir cynfas proffesiynol o’r llun i’r enillydd a bydd cynfas arall yn cael ei arddangos yn y farchnad. Cysylltwch â Gemma Dawkins, South Wales Evening Post, Blwch Post 14, Stryd Adelaide, Abertawe i gyflwyno eich cais.
Darlledu Awyr Agored a Sioe Deithiol gyda’r Wave a Sain Abertawe – 18 Mai a 29 Gorffennaf.
Sioe Deithiol Making Markets Matter - dydd Iau 18 Awst
Fel rhan o ymgyrch genedlaethol gan Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Marchnad, i ddwyn perswâd ar y cyhoedd i ymweld â marchnadoedd y DU, bydd Marchnad Abertawe’n cymryd rhan yn sioe deithiol Making Markets Matter.
Daw’r digwyddiad cyffrous hwn i Farchnad Abertawe ddydd Iau 18 Awst o 10am tan 4pm, a bydd yn cynnwys llawer o gemau, nwyddau rhodd a gwobrau ar gyfer cystadlaethau.
Hefyd ceir paentio wynebau Am Ddim a bydd masgot Making Markets Matter, Victor y Llew, hefyd yno i ddiddanu’r plant.