Swansea Indoor Market
Dydd Sul, 5, Medi, 2010          English
Marchnad Dan Do Abertawe
Marchnad Abertawe yw'r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru ac mae'n un o'r rhai mwyaf ac enwocaf yn y DU sy'n cynnal traddodiad canrifoedd o fasnachu marchnad yng nghanol y ddinas. Adeiladwyd y farchnad gyfredol ar Stryd Rhydychen ym 1961 ar ôl i’r adeilad gwreiddiol gael ei ddinistrio yn y Blits. Mae'r to gwydr mawreddog yn 192 troedfedd ac mae'n rhan enwog o nenlinell Abertawe. Heddiw, mae'r farchnad yn gartref i dros 100 o fasnachwyr lleol annibynnol sy'n cynnig croeso cynnes, dihafal ac amrywiaeth unigryw o nwyddau a gwerth am arian.

O dan y to gwydr, dewch o hyd i gig a ffowlyn, pysgod a bwyd y môr, cynnyrch lleol, ffrwythau a blodau ardderchog. Mae'r farchnad yn cynnal rhai o'r traddodiadau gorau bwyd lleol a Chymru gan gynnwys bara lawr traddodiadol, cocos yn ffres o Benclawdd, pice ar y maen yn syth o'r radell, golwython cig wedi'u paratoi yn null traddodiadol Cymru a ffrwythau a llysiau yn syth o Benrhyn Gŵyr a Sir Benfro.

Fodd bynnag, mae llawer mwy na'r dewis gwych o fwyd. Mae sawl lle i siopwyr brynu byrbryd cyflym neu eistedd i gael pryd yn ogystal â stondinau sy'n gwerthu llyfrau, gemwaith, blodau, cardiau, dillad, llestri o'r radd flaenaf, bagiau llaw moethus, anrhegion i westeion priodas a llawer mwy.

Bydd archwilio'r wefan hon yn rhoi llawer o wybodaeth i chi ond y ffordd orau i samplu elfennau hyfryd Marchnad Abertawe yw ymweld â hi a chael profiad personol!
Visit our YouTube channel
Stalls to let
Mouth Watering Recipes
Download Brochure
City and County of Swansea