Gyda thros 100 o fasnachwyr gan gynnwys sawl stondin unigryw a lleoedd i fwyta, Marchnad Abertawe yw'r lle perffaith i grwpiau sy'n teithio ar goetsis. Fel marchnad dan do fwyaf Cymru, mae'n hawdd diddanu grwpiau mawr ac oherwydd ei bod dan do, mae'n atyniad gwych boed law neu hindda. Mae'r to cromen gwydr yn rhan eiconig o nenlinell Abertawe ac oddi tano, gallwch brofi cymeriad marchnad draddodiadol sy'n rhan mor bwysig o dreftadaeth y ddinas.
Am fwy o wybodaeth gyffredinol am deithio ar goetsys yn Abertawe, ffoniwch Ddesg Gwyliau Grwp Abertawe ar 01792 635 208.
Ydych chi'n bwriadu ymweld ag Abertawe y Nadolig hwn?
Ewch i www.swanseachristmas.com ar gyfer y newyddion diweddaraf am Nadolig Abertawe 2009 ac am yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, gweithgareddau, siopa ac atyniadau lleol.
Canol Dinas Abertawe - Ffeithiau a ffigurau allweddol
Rhif 1
Mae Canol Dinas Abertawe yn cynnwys mwy na 260 o siopau, 90 o leoedd i fwyta, 30 o salonau harddwch a thrin gwallt a 45 o dafarndai a chlybiau.
Rhif 2
Mae gan Abertawe 32 filltir o arfordir a mwy na 50 o draethau a childraethau ag enwau - traeth ar gyfer pob wythnos y flwyddyn!
Rhif 3
Yn ddiweddar, enwyd Abertawe yn un o'r deg dinas sy'n tyfu gyflymaf i fusnesau yn y DU.
Rhif 4
Marchnad Abertawe yw'r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru, gyda thros 100 o stondinau annibynnol.
Rhif 5
Mae 25 maes parcio yng Nghanol Dinas Abertawe, gan gynnwys 3 chyfleuster parcio a theithio arobryn a mwy na 8,500 o lefydd parcio.
Rhif 6
Enwyd Abertawe yn ddiweddar fel dinas lanaf Cymru, a'r ail ddinas lanaf yn y DU.
Rhif 7
Amgueddfa Abertawe yw amgueddfa gyhoeddus hynaf Cymru, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yw un o amgueddfeydd diweddaraf Cymru.
Rhif 8
Yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig bydd digwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal yng Nghanol Dinas Abertawe bob dydd o 15 Tachwedd.
Rhif 9
Rhwng 27 Tachwedd a 13 Rhagfyr bydd Marchnad y Nadolig ar Stryd Rhydychen, a 120,001 o oleuadau bach eco-gyfeillgar yn y coed o gwmpas Canol Dinas Abertawe fel rhan o addurniadau'r Nadolig!
Rhif 10
Twr 29 llawr Cei Meridian ym Marina Abertawe yw adeilad preswyl talaf Cymru, gyda golygfeydd panoramig o Fae Abertawe.