Mae gan Farchnad Abertawe hanes hir a lliwgar a ddechreuodd bron mil o flynyddoedd yn ôl pan arferai’r bobl leol ymgasglu yng nghysgod Castell Abertawe i werthu eu nwyddau a masnachu cnydau a da byw.
Ym 1652, adeiladwyd tÅ· marchnad gyda tho yn Sgwâr y Castell. O fewn ychydig o flynyddoedd, darganfuwyd bod y tÅ· marchnad hwn yn rhy fach gyda'r stondinau'n dechrau llifo allan ar y strydoedd.
Ni ail-osodwyd y farchnad ar Stryd Rhydychen tan 1830. Eto i gyd, roedd y safle hwn hefyd yn rhy fach i dref Abertawe a oedd yn tyfu o hyd a lluniwyd cynlluniau i wella'r farchnad. Agorwyd marchnad at y diben ym 1897 ar Stryd Rhydychen ac am y tro cyntaf, roedd y farchnad dan do yn gyfan gwbl. Ei tho oedd y strwythur gwydr a gwaith haearn gyr mwyaf yn y DU. Ar ddiwedd y flwyddyn honno, cyflwynwyd trydan i'r farchnad.
Parhaodd y farchnad i ehangu ac erbyn yr 1920au roedd ganddi dros 670 o stondinau. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dinistriwyd y farchnad gan fomiau'r Almaenwyr. Oherwydd bod y farchnad yn gyflenwad hanfodol o fwyd i'r 23,000 o bobl yn Abertawe, adeiladwyd marchnad dros dro tra cliriwyd y safle. Parhaodd marchnad dan do ar safle Stryd Rhydychen drwy'r 1940au a'r 50au tra codwyd £1.25 miliwn er mwyn adeiladu marchnad newydd.
Agorwyd adeilad Marchnad Abertawe gyfredol ym 1961 ac mae wedi bod yn rhan bwysig o fywyd yn Abertawe ers hynny.
Golygfa o Stryd Rhydychen heddiw gyda mynedfa'r farchnad ar y chwith. Yn ddiweddar, cafodd yr ardal hon ei throi'n ardal i gerddwyr sy'n golygu bod siopwyr yn gallu cerdded o siop i siop yn ddiogel.
...moreAr gyffordd Stryd yr Undeb a Stryd Rhydychen ym 1978. Erbyn hyn, mae'n ardal i gerddwyr ac mae coed ar ei hyd.
...moreTynnwyd y llun hwn yn fuan wedi gwneud Stryd Rhydychen yn ardal i gerddwyr ac yn agos at y Nadolig o edrych ar yr addurniadau. Gyda Marks & Spencer (agorwyd ym mis Rhagfyr 1957) a British Home Stores ar y chwith a'r Co-op ar y dde.
...moreTynnwyd y llun hwn yn y 1970au cynnar pan gliriwyd y safle yn barod ar gyfer adeiladu Canolfan Siopa'r Cwadrant. Yn edrych i'r gorllewin o adeilad C&A (HMV nawr) ar hyd Stryd Oren. Heddiw, mae Stryd Oren rhwng cefn marchnad Abertawe (cornel dde waelod) a'r cwadrant, ac mae'n cael ei defnyddio'n bennaf fel man dadlwytho i'r adeiladau hyn. Gellir gweld tafarn Quadrant Gate ar ochr chwith y llun yng nghanol Stryd Nelson sy'n arwain at Stryd Singleton.
...moreGolygfa o Eglwys y Santes Faer a'r Farchnad ym 1970. Tynnwyd y llun o Dŷ Oldway cyn adeiladwyd y Cwadrant. Yr adeilad gwyn yn y canol yw Bar y Buccaneer, yng Ngwesty'r Dolphin.
...moreYr hyn oedd ar ôl oedd dwy erw o wydr a tho haearn ar Farchnad Abertawe Stryd Rhydychen. Ni ail-adeiladwyd y farchnad tan 1961.
...moreGolygfa o siop Halfords ar gornel Stryd yr Undeb a Stryd Rhydychen wedi’i dynnu tua 1960 o'r ardal lle'r oedd y farchnad newydd yn mynd i gael ei hadeiladu! Mae blaen nodedig adeilad 'Rhif 10' (a oedd unwaith yn dafarn ac yn un o hoff leoedd Dylan Thomas ac sydd heddiw yn siop bwyd iach) yn sefyll drws nesaf i Halfords ar Stryd yr Undeb.
...moreYr olygfa hon yw safle'r farchnad cyn iddi gael ei hadeiladu tua 1959. Yn edrych ar hyd Stryd Rhydychen tuag at Marks and Spencer gyda Whitewalls ar y dde.
...moreMarchnad Abertawe - Stryd Rhydychen, ar y dde, gyda Gwesty'r Exeter gyferbyn ar y gyffordd â Stryd yr Undeb. Rydym yn edrych i fyny'r stryd tuag at 'David Evans'.
...moreCanol tref Abertawe cyn blits 1941. Mae'r farchnad yn y gornel dde isaf (mae'n edrych fel stadiwm pêl-droed gydag adeilad arall y tu mewn iddi).
...moreGolwg o'r farchnad ar Stryd Rhydychen cyn y rhyfel. Sylwer ar y goleuadau traffig ar y gornel. Agorwyd yr adeilad hwn ym 1897 a chafodd ei ddinistrio gan fomiau ym mis Chwefror 1941; mae'r farchnad gyfredol ar yr un safle.
...moreRydym yn sefyll ger cornel Stryd yr Undeb yn edrych ar hyd Stryd Rhydychen tuag at y castell. Mae ffasâd mawreddog mynedfa'r farchnad ar y dde.
...moreGolwg o Stryd Rhydychen ym 1910, yn edrych tuag at y castell. Y farchnad a ddyluniwyd gan Messrs. Buckley Wilson & Moxham sydd ar y dde gyda'i mynediad a'i ffasâd mawreddog. Mae rhesi o siopau ar y chwith a rhif 258, 'Dent Jones' sydd agosaf at y camera. Tramiau, beiciau a cheffyl a chertiau oedd y dulliau cludiant mwyaf cyffredin.
...moreStryd Rhydychen tua 1900, i gyfeiriad y gorllewin. Roedd y farchnad, ar y chwith, wedi'i hadeiladu â blaen o friciau Ruabon a cherrig Caerfaddon. Roedd y ddau dŵr a oedd ger y farchnad yn 60 troedfedd o uchder. Dyma oedd yr ail farchnad i fod ar y safle hwn. Ceffylau oedd prif ddull cludiant y cyfnod hwn.
...moreMarchnad gyntaf Stryd Rhydychen c.1880 Mae'r holl stondinau o dan doeau llechen ac maent yn agor i fuarth canolog. Mae Bryn Cilfàu yn y cefndir y tu ôl i dŵr y cloc.
...moreGolwg o Stryd Rhydychen tua 1870. Rydym yn edrych tuag at y Mwmbwls. Y stryd ar y gyffordd yng nghanol y llun yw Stryd yr Undeb. Mae'r farchnad ar ochr chwith y llun.
...moreMae Stryd Oren yn rhedeg rhwng y farchnad a chanolfan siopa'r Cwadrant a heddiw mae'n lle dadlwytho a mynediad i'r ddau eiddo. Tynnwyd y llun hwn tua 1860-1880. Mae'r arwydd uwchben mynedfa'r farchnad yn dweud "Marchnad newydd - agorwyd ar 25 Medi, 1830". Drws nesaf, rhif 36, yw 'Tafarn y Royal Albert' a rhif 35 yw 'Bragdy Stryd Oren'.
...moreGolwg gynnar o Stryd Rhydychen yn edrych tua'r Castell. Mae Tafarn y Globe ar y chwith. Mae'r farchnad ar y dde ac mae i'w gweld fel wal isel gyda chyfres o simneiau. Roedd y stondinau'n amgaeedig gan hon. Roedd stondinau cigyddion ar hyd y wal hon. Mae nodyn ar y llun gwreiddiol yn dweud wrthym fod y farchnad wedi cael ei chodi ym 1830.
...moreSgwâr Marchnad Abertawe gyda'r Tŷ Marchnad o 1652. Lithograff gan John Nixon, 1799.
...more