Mae gan Farchnad Abertawe gyfoeth o fwydydd gwych o Gymru, y bu llawer ohonynt ar gael yn y Farchnad drwy gydol ei hanes. Mae'r stondinau pysgod, cig, ffrwythau a llysiau a chocos a bara lawr wedi ysbrydoli cogyddion ers canrifoedd ac maent yn rhan o hanes cyfoethog marchnadoedd yn Abertawe.
Isod mae casgliad o ryseitiau i chi eu trio yn y tÅ·. Cofiwch fod y cynhwysion mwyaf ffres ar gael bob dydd o'r amrywiaeth eang o stondinau bwyd arbenigol ym marchnad Abertawe.
Gellir dod o hyd i fwy o ryseitiau yn
www.celtnet.org.uk/recipes/cymraeg.php
Mariniere Cocos
Maent wedi'u ffermio'n lleol ar hyd Penrhyn Gŵyr ers cannoedd o flynyddoedd, ac mae cocos yn cael eu gwerthu'n ffres neu hyd yn oed yn fyw yn eu cregyn.
50g o fenyn neu olew;
100g o shibwns neu winwns wedi'u torri;
1 sbrigyn o deim ffres neu hanner llwy de o deim sych;
4 sbrigyn o barsli ffres wedi'i dorri'n fân;
3 deilen llawryf;
150ml o win gwyn, seidr neu sieri;
Pupur du wedi'i falu'n ffres;
1 kilo o gocos yn eu cregyn wedi'u golchi.
Toddwch y menyn neu'r olew (neu hanner o'r ddau) mewn sosban fawr a choginio'r shibwns nes eu bod yn feddal. Ychwanegwch y gwin, y teim, y ddeilen llawryf, y pupur a'r parsli. Mudferwch am bum munud, yna ychwanegwch y cocos, rhowch glawr ar y sosban a'i stemio am dri munud ar wres uchel gan ysgwyd y sosban yn rheolaidd. Gadewch iddo oeri ychydig ac yna tynnwch y cregyn. Ail-dwymwch heb ferwi a rhowch y cocos a'r sudd mewn powlenni gan adael yr haen waelod a fydd yn cynnwys graean. Rhowch y parsli sy'n weddill ar ei ben a gweinwch gyda thorth wedi'i phobi'n ffres ym marchnad Abertawe.
Cacennau Bara Lawr
Bara lawr yw gwymon sy'n tyfu yn yr ardaloedd rhwng y llanw, yn enwedig ym mhenrhyn Gŵyr. Yng Nghymru, y mae wedi cael ei fwyta ers canrifoedd fel bwyd rhad a maethlon.
200g o fara lawr;
100g o flawd ceirch;
Sesnin;
Olew ar gyfer ffrio.
Rhowch y blawd ceirch ar blât a'i sesno. Rhowch lwy bwdin o fara lawr yn y blawd ceirch i ffurfio risolau bach. Gwresogwch badell ffrio'n gymedrol. Yn draddodiadol, byddai teuluoedd yn coginio bacwn ac yna'n ffrio'r bara lawr ym mraster y bacwn, sy'n wirioneddol flasus. Os ydych yn llysieuwr, defnyddiwch olew blodau'r haul.
Rhowch y risolau yn y sosban a choginiwch am 5-7 munud naill ochr, gan droi'n ofalus a'u hail-siapio fel sy'n briodol.
Gweinwch gyda brecwast wedi'i goginio neu gydag unrhyw bysgodyn o'r gridyll neu gig neu gyda llysiau o'r gridyll am wledd i lysieuwyr.
Cig Oen â Mêl
Mae gan gig oen hyfryd Cymru sydd ar gael o gigyddion Marchnad Abertawe draddodiad hir a nodedig fel cig o'r radd flaenaf ar gyfer cogyddion a'r rhai sy'n coginio yn y tÅ·.
Ysgwydd 2 kilo o gig oen Cymru;
sbrigyn o rosmari ffres;
sesnin;
1 llwy de o sinsir sych;
200g mêl o Gymru;
500ml seidr o Gymru;
250g o winwns, moron a seleri wedi'u torri.
Rhowch y ffwrn ar farc nwy 6, 200 gradd selsiws (400 gradd ffarenheit).
Torrwch y braster dieisiau, ond rhaid cadw caen dda drosto ac yna torrwch y cig yn ysgafn drosto. Gorchuddiwch â sinsir a'i sesno'n ysgafn. Ysgeintiwch hanner y rhosmari wedi'i dorri'n fân.
Rhowch ffoil ar waelod y tin oherwydd y bydd y mêl yn carameleiddio. Rhowch y llysiau yn y sosban a gosodwch yr ysgwydd wedi'i pharatoi ar ben y rhain. Gorchuddiwch â mêl a rhowch yn y ffwrn am hanner awr. Gwresogwch y seidr a'i arllwys o amgylch y cig, yna rhowch y tymheredd ar farc nwy 4 (175C/325F) a pharhewch i'w goginio am awr bellach gan frasteru a sesno'n ysgafn ychydig o weithiau gan ychwanegu fwy o seidr os yw'n hanfodol ac arllwys rhosmari arno chwarter awr cyn ei fod yn barod. Rhowch y cig yn ofalus mewn dysgl cerfio a'i gadw'n gynnes i'w setio.
Arllwyswch y braster sy'n weddill ac ychwanegwch tua 300ml o stoc ysgafn a golchi'r llysiau wedi'u carameleiddio. Trosglwyddwch y cyfan i sosban a'i deneuo i tua thraean gan ei dewychu ychydig os ydych yn dymuno drwy hylifo'r llysiau neu ychwanegu ychydig o ronynnau.
Torrwch y cig naill ochr i ffwrdd o'r asgwrn palfais a gweinwch gyda'r grefi mêl, seidr a llysiau cyfoethog.
Mae'r rysáit yn gweithio gyda chyw iâr neu borc.
Pice ar y Maen
Mae pice ar y maen traddodiadol, yn boeth o'r radell, yn enwog yng Nghymru.
500g o flawd plaen;
1 llwy de o bowdr codi;
250g o fenyn;
pinsiad o halen;
150g o siwgr;
150g o gyrren a syltaniaid cymysg;
1 llwy de o sbeis cymysg (nytmeg, sinamon, sinsir);
1 wy;
50ml o laeth.
Cymysgwch y blawd, y powdr codi a'r halen mewn powlen fawr. Rhwbiwch y menyn i mewn; ychwanegwch y siwgr, y sbeisys a'r ffrwythau. Curwch yr ŵy gyda'r llaeth a chymysgwch i mewn fel ei fod yn debyg i ansawdd crwst brau. Rhowch y cyfan ar fwrdd â blawd arno a rholiwch y toes i drwch 1cm. Defnyddiwch dorrwr a rholiwch yr holl ddarnau gwastraff eto. Twymwch radell neu sosban drom i wres cymedrol, rhowch ychydig o saim arno a choginio'r cacennau am 3-4 munud ar y naill ochr nes eu bod yn frown. Sicrhewch fod y cacennau wedi'u coginio yn y canol. Taenwch ychydig o siwgr mân a gweinwch hwy'n boeth neu'n oer.
Mae sawl person yn mwynhau pice ar y maen yn ffres o'r radell ac wedi'u gwneud o ryseitiau teulu canrifoedd oed bob dydd wrth siopa ym Marchnad Abertawe.