“GET FRESH”
Gwerthwr Blodau a Gwerthwr Ffrwythau a Llysiau
Am ddewis gwych o flodau, ffrwythau a llysiau, ewch i "Get Fresh" sydd wedi'i leoli'n gyfleus iawn ar y byrddau masnachu yn agos i fynedfa’r farchnad ar Stryd yr Undeb.
Mae “Get Fresh” yn gwerthu amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau ffres gan gynnwys dewis eang o gynnyrch ffermwyr lleol a Phenrhyn Gŵyr gan roi'r cynnyrch mwyaf ffres, tymhorol i gwsmeriaid am bris gwych drwy gydol y flwyddyn. Mae'r arddangosfeydd traddodiadol, agored yn llawn ffrwythau a llysiau o'r radd flaenaf sy'n rhoi cyfle i chi ddewis y cynnyrch sy'n apelio atoch chi er mwyn i chi gyrraedd eich "pump y diwrnod".
Mae amrywiaeth o gynnyrch organig hefyd ar gael.
Mae "Get Fresh" hefyd yn gwerthu blodau lliwgar, gwych.
Fel busnes hen sefydledig, mae "Get Fresh" yn falch i ddarparu ar gyfer cwsmeriaid unigol a chyfanwerthwyr.
Ffoniwch 01792 642 247 i archebu ac ar gyfer unrhyw ymholiadau.